“
Ar ôl cyfnod hynod brysur dros y misoedd diwethaf yn lansio cyfres lyfrau newydd i blant, ac yn mynychu cynadleddau i athrawon ar hyd a lled y wlad, daeth gweithgareddau haf y Ganolfan i ben yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli fis Awst gyda llu o weithgareddau. Roedd gan y Ganolfan ogof antur i blant ar y maes, lle cafwyd gweithgareddau amrywiol yn cynnwys sesiwn ddawnsio gyda Heini (S4C); sesiwn o ganu gyda Ffa-la-la, gweithdy rap mêts gyda Mr Phormula, gweithdy gemwaith, sesiwn Tric a Chlic, a sesiwn stori ar Chwedlau Cymru gyda Mererid Hopwood.
Yn ogsytal â'r gweithgareddau i blant, cafwyd cyfle i groesawu Nia Parry o raglen S4C, Cariad@Iaith i stondin y Ganolfan, lle bu'n sgwrsio gyda rhai o gyn-fynychwyr cyrsiau'r Cynllun Sabothol Cenedlaethol fel rhan o dderbyniad y Ganolfan ar y maes i ddathlu datblygiadau diweddar o fewn ein gwasanaethau hyfforddiant iaith. Yn ystod y sesiwn hwn, cafwyd cyfle i glywed am gynlluniau'r Ganolfan ar gyfer cyrsiau'r Cynllun Sabothol am y dair blynedd nesaf. Braf oedd croesawu Nia Parry i'r derbyniad, yn ogsytal â rhai o'n partneriaid yn yr Ysgolion Cynradd ac Uwchradd, yr Awdurdodau Addysg Lleol, Llywodraeth Cymru, a rhai o'r staff newydd fydd yn ymuno â'r Ganolfan ym mis Medi.
Cyhoeddwyd catalog newydd y Ganolfan ar gyfer 2014/15 yn ystod yr Eisteddfod yn ogystal, a bydd y catalog hwn yn cael ei ddosbarthu i athrawon ac ysgolion yn yr wythnosau nesaf drwy ein partneriaid. Mae modd ichi gysylltu â ni yn y swyddfa i dderbyn copi yn ogystal.
Yn y cyfamser, dyma glip fideo o uchafbwyntiau'r Ganolfan yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli fis Awst.
“