Croeso i dudalennau gwefan Ysgol y Dderwen.
Ysgol Gymraeg sydd wedi ei gwreiddio yn nhref hynafol Caerfyrddin yw Ysgol y Dderwen. Mae’n darparu addysg o ansawdd uchel trwy gyfrwng y Gymraeg i dros 350 o blant gyda’r Saesneg yn cael ei chyflwyno ym mlwyddyn 3. Golyga hyn fod yr holl ddisgyblion yn gadael yr ysgol yn hyderus ddwyieithog ac yn barod i’w trosglwyddo i Ysgol Gyfun Bro Myrddin. Mae’r ysgol yn cynnig ystod o brofiadau addysgol cyfoethog ac amrywiol ac yn paratoi’r disgyblion i fod yn ddinasyddion dwyieithog cyfrifol sy’n parchu ei gilydd, eu cyd-ddyn, eu treftadaeth a’u hamgylchfyd.
Estynnir croeso cynnes i chi rhieni i ymuno yn holl weithgareddau’r ysgol, ac edrychwn ymlaen at bartneriaeth hapus, llwyddiannus a ffrwythlon yn ystod addysg gynradd eich plentyn.
Mr. Dylan Evans