Croeso i dudalen Clwb Gofal Mês y Dderwen!
Lleolir Clwb Gofal Mês y Dderwen ar dîr Ysgol y Dderwen. Ein nod yw cynnig gofal o’r radd flaenaf i ddisgyblion yr ysgol er mwyn sicrhau eu bod yn gartrefol mewn awyrgylch Gymraeg a Chymreig.
Pryd mae’r Clwb ar agor?
Mae Clwb Gofal Mês y Dderwen ar agor tu allan i oriau arferol yr ysgol.
Yn ystod tymor yr ysgol : 7.45y.b-8.45 ac ar ôl ysgol 3.15y.p-6.00y.h
Mae’r clwb ar agor bob gwyliau heblaw am wyliau’r Nadolig; Dydd Llun -Dydd Iau. Does dim rhaid eich bod yn defnyddio’r clwb yn ystod y tymor er mwyn cofrestru a defnyddio’r gwasanaeth yn ystod y gwyliau. Mae croeso cynnes i bob disgybl!
Beth mae’r plant yn gwneud?
Mae’r plant yn cymryd rhan mewn amrywiath o weithgareddau mewn amgylchedd cyfarwydd gyda staff y maent yn eu hadnabod.
Mae’r plant yn derbyn cyfleoedd i gymdeithasu a dysgu trwy chwarae dan arweiniad staff proffesiynol, cymwys a brwdfrydig. Mae pwyslais arbennig ar Gymreictod, datblygiad personol, sgiliau creadigol a lles y plant. Mae’r adeilad yn addas hefyd ar gyfer plant â nam corfforol.
Sut i gofrestru?
Rhaid cofrestru eich plentyn/plant cyn y gallant ymuno â’r Clwb – hyd yn oed os na fyddwch yn ei ddefnyddio’n aml. Mae ffurflenni cofrestru ar gael gan yr arweinydd.
Lle ar gyfer 80 o blant sydd ar gael ym mhob sesiwn, felly y cyntaf i’r felin gaiff falu!
e-bostiwch: clwbgofalymes@hotmail.com
Aelodau Pwyllgor Clwb Gofal Mês y Dderwen
Adele Davies (Rhiant), Carys Davies (Rhiant), Sioned Jones (Arweinydd), Anwen Davies (Trysorydd), Dylan Evans (Person Cofrestredig), Val Humphreys (Rhiant), Alex Williams (Rhiant), Dr. Llinos Roberts (Rhiant), Rhiannon Davies (Rhiant)
Llythyron
Enwebiadau Pwyllgor Clwb Gofal Mês y Dderwen
Trefniadau’r Clwb yn ystod gwyliau