O’r fesen derwen a dyf
Croeso i dudalennau gwefan Ysgol Gymraeg y Dderwen.
Ysgol Gymraeg sydd wedi ei gwreiddio yn nhref hynafol Caerfyrddin yw Ysgol y Dderwen. Mae’n darparu addysg o ansawdd uchel trwy gyfrwng y Gymraeg i dros 350 o blant gyda’r Saesneg yn cael ei chyflwyno ym mlwyddyn 3. Golyga hyn fod yr holl ddisgyblion yn gadael yr ysgol yn hyderus ddwyieithog ac yn barod i’w trosglwyddo i Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin. Mae’r ysgol yn cynnig ystod o brofiadau addysgol cyfoethog ac amrywiol ac yn paratoi’r disgyblion i fod yn ddinasyddion dwyieithog cyfrifol sy’n parchu ei gilydd, eu cyd-ddyn, eu treftadaeth a’u hamgylchfyd.
Estynnir croeso cynnes i chi rhieni i ymuno yn holl weithgareddau’r ysgol, ac edrychwn ymlaen at bartneriaeth hapus, llwyddiannus a ffrwythlon yn ystod addysg gynradd eich plentyn.
Y Gymraeg yw iaith swyddogol Ysgol y Dderwen. Cymraeg yw’r unig gyfrwng yn y Cyfnod Sylfaen. Cyflwynir Saesneg yn ystod cyfnod y plentyn yng Nghyfnod Allweddol Dau.
Yn unol â pholisi dwyieithog yr Awdurdod Addysg, darperir adnoddau dysgu safonol i sicrhau bod disgyblion yn medru cyfathrebu’n hawdd ar lafar ac yn ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg erbyn iddynt adael yr ysgol.
Amcanion Cyffredinol Ysgol Gymraeg y Dderwen:
* sicrhau bod pob disgybl yn gartrefol mewn awyrgylch Gymraeg a
Chymreig.
* symbylu pob disgybl i ddatblygu hyd eithaf ei allu, yn academaidd ac yn
ddiwylliannol, yn emosiynol, yn gymdeithasol ac yn gorfforol.
* annog pob disgybl i feithrin a meistroli’r grefft o gyfathrebu drwy’r iaith
Gymraeg yn bennaf, a Saesneg fel cyfrwng arall.
* gwerthfawrogi gwerthoedd moesol ein cenedl a’r byd, a chreu
ymwybyddiaeth o anghenion plant a phobl eraill.
* sicrhau bod gan bob disgybl gyfraniad gwerthfawr mewn cymdeithas fyw ac
iach.
* creu ymwybyddiaeth ac awydd am ddimensiwn ysbrydol bywyd, parch at
werthoedd crefyddol, a goddefgarwch at hiliau a chrefyddau eraill.
* datblygu’r medrau sylfaenol ym mhob agwedd ar y cwrs addysg gan gofio
oed, dawn a gallu’r disgybl.
* datblygu medrau a deallusrwydd mathemategol, gwyddonol a thechnolegol
trwy brofiadau perthnasol sy’n adlewyrchu’r newidiadau o fewn ein byd.
* datblygu hunanfynegiant trwy gerddoriaeth, meim, drama, celf ac addysg
gorfforol.
* creu ymwybyddiaeth o’r angen am lendid personol, moesgarwch a chwrteisi.
* hybu arferion diogelwch yn yr ysgol, y cartref a’r gymdeithas.
* creu cysylltiad agos rhwng y cartref a’r ysgol er mwyn i rieni ac athrawon
weithio mewn cytgord er lles pob disgybl.
* creu’r fath awyrgylch a naws lle mae pawb sy’n gysylltiedig â’r ysgol yn cael
boddhad.
Mr. Dylan Evans
Pennaeth