Yn Ysgol y Dderwen rydym yn ymdrechu i fod yn gyfeillgar i’r amgylchedd. Mae’r Cyngor Eco yn gyfrifol am benderfynu beth ddylem wneud – er mwyn gwella tiroedd yr ysgol, arbed egni, lleihau gwastraff, ailddefnyddio ac ailgylchu. Rydym hefyd yn ceisio bod yn ddinasyddion byd eang trwy ddysgu am bwysigrwydd pethau fel Masnach Deg.
Enillom Gwobr Platinwm Eco Sgolion ym mis Mawrth 2014.
Ein Cod Eco yw:
• Gofalu am ein hamgylchedd
• Cadw’r ysgol yn lân a thaclus
• Lleihau gwastraff trwy ailddefnyddio ac ailgylchu
• Hybu Masnach Deg
Cynlluniau Ysgolion Iach
Mae 127 o ysgolion Sir Gâr ar Gynllun Ysgolion Iach erbyn hyn. Mae’r Prosiect yn rhan o gynllun Sefydliad Iechyd y Byd ‘Rhwydwaith Ewropeaidd o Ysgolion Hybu Iechyd‘ y mae Cymru bellach yn rhan.
Mae wefan y Sir yn cynnwys cyfoeth o wybodaeth ar gyfer Ysgolion Sir Gaerfyrddin sydd wedi’u hachredu i’r Cynllun, gyda chynllun gweithredu templed, enghreifftiau o ymarfer da a chysylltiadau defnyddiol. Manylion am ddigwyddiadau sydd i ddod yn cael eu harddangos ar y safle.
Cliciwch isod i gael mynediad i’r wefan:-
Fideo Rhyngwladol from Ysgol y Dderwen on Vimeo.
Cyflwyniad Llysgenhadon Iaith.